Elin Jones AC
 Llywydd
 Cadeirydd, y Pwyllgor Busnes

24 Mai 2018

Annwyl Lywydd,

Diolch am eich llythyr dyddiedig 9 Mai 2018 ynghylch maint y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r newidiadau sydd eu hangen i’r Rheolau Sefydlog o ganlyniad i’r gwaith craffu ar is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).  Fe wnaethom ni drafod y materion a godwyd yn eich llythyr ar 14 a 21 Mai.

Fel yr ydych yn cyfeirio ato yn eich llythyr, mae ein Pwyllgor yn draddodiadol wedi gweithio mewn ffordd amhleidiol, pwynt a nodwyd yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor sy’n ein rhagflaenu. Rydym wedi gwneud argymhellion yn rheolaidd ar bob Bil ac wedi adrodd ar rinweddau Offerynnau Statudol heb fod cyfansoddiad y Pwyllgor yn adlewyrchu cydbwysedd pleidiau’r Cynulliad. Mae hyn, yn ein barn ni, wedi dod yn un o gryfderau mawr y Pwyllgor ac mae wedi arwain at welliannau i ddeddfwriaeth yn seiliedig ar egwyddor gyfansoddiadol a deddfwriaethol.

Rydym yn deall ei bod yn debygol y bydd y Bil yn gwneud y broses sifftio ar gyfer Pwyllgor y Cynulliad yn un rwymol, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor hwn ac fel yr adlewyrchir eisoes yn y Bil ar gyfer Pwyllgorau San Steffan. Rydym hefyd yn deall y bydd y broses yn San Steffan yn cael ei chynnal gan bwyllgor â chydbwysedd gwleidyddol ac y bydd angen ymchwilio i’r goblygiadau cyfansoddiadol a gwleidyddol o ganlyniad.

Er nad ydym yn gwrthwynebu newid mewn egwyddor, rydym yn credu bod angen i'r rhesymau dros newid i faint presennol y Pwyllgor fod yn seiliedig ar resymu cadarn a dealltwriaeth glir o oblygiadau newid o'r fath. Yn hyn o beth, rydym yn gwneud y sylwadau a ganlyn:

Pe bai modd i chi ddarparu mwy o wybodaeth am ba rolau penodol y mae'r Pwyllgor Busnes yn rhagweld y bydd ein Pwyllgor yn ymgymryd â hwy ar ddeddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol, byddem yn gallu darparu ymateb mwy cynhwysfawr, a hynny cyn gynted â phosibl.

Mae ein gwaith parhaus ar faterion gweithredol sy'n gysylltiedig â Bil yr UE (Ymadael) yn ystyried gweithdrefnau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys digonolrwydd ac addasrwydd y Rheolau Sefydlog perthnasol presennol i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen. Ein bwriad yw adrodd ar y materion hyn tua diwedd mis Mehefin. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn debygol o ymdrin â materion eraill sy'n gysylltiedig â'r Bil a'r Cytundeb Rhynglywodraethol, fel hysbysu'r Cynulliad am gamau y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi’u cymryd mewn meysydd datganoledig, ac ym mha amgylchiadau y rhoddir cydsyniad i Lywodraeth y DU weithredu mewn meysydd datganoledig. 

Yn gywir,

Mick Antoniw
Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.